Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 5 Mawrth 2019
Amser:
08.30 -
08.44
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog heddiw, gan y bydd yn absennol o ddechrau'r Cyfarfod Llawn
· Mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno cynnig i atal y Rheolau Sefydlog i ganiatáu trafodaeth ar “Drafodaethau Ymadael â'r UE” fel yr eitem olaf o fusnes yn y Cyfarfod Llawn heddiw. Mae cynnig sydd bron yn union yr un fath wedi'i gyflwyno yn Senedd yr Alban a chynhelir dadl a phleidlais 90 munud i gyd-redeg mor agos â phosibl gyda Senedd yr Alban. Caiff y ddadl honno ei ffrydio'n fyw mewn rhai rhannau penodol o'r Senedd. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes mai'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau fyddai 1.30pm heddiw.
· Mae'r Llywodraeth wedi gohirio'r datganiadau canlynol tan 12 Mawrth 2019 i gynnwys y ddadl:
- Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Prentisiaethau: Buddsoddi Mewn Sgiliau ar gyfer y Dyfodol (45 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoli'r Risg o Lifogydd ac Erydu Arfordirol (45 munud)
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf a ddiwygiwyd i adlewyrchu'r eitemau a aildrefnwyd o ddydd Mawrth 5 Mawrth. Rhannwyd copïau caled o'r fersiwn wedi'i diweddaru gyda'r Rheolwyr Busnes.
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 27 Mawrth 2019 –
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60
munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ystyried ei egwyddorion cyffredinol, ac ysgrifennu at y pwyllgor i ymgynghori ar yr amserlen arfaethedig.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol i bwyllgor i graffu ymhellach arno, o ystyried amserlen Seneddol dynn y Bil yn San Steffan, ond nodwyd y gallai'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei ystyried yn ei gyfarfod ddydd Iau. Nododd y Rheolwyr Busnes fod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer y Memorandwm wedi'i threfnu ar gyfer 12 Mawrth.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais gan y Trefnydd i ohirio unrhyw drafodaeth tan 19 Mawrth i ganiatáu ystyriaeth bellach gan y grŵp Llafur.